IeithoeddDewis Iaith -> Saesneg for a rough translation into English
|
Mae rhaglen get-iplayer yn galluogi defnyddwyr Ubuntu i lwytho copi cadw MP4 o raglenni o wefan iPlayer BBC. I lwytho’r meddalwedd chwiliwch am get-iplayer yng Nghanolfan Meddalwedd Ubuntu – bydd CMU yn sicrhau bod pecynnau eraill sydd angen i redeg y rhaglen yn cael eu llwytho hefyd.
Rhaglen llinell orchymyn yw get-iplayer, ac mae cyfarwyddiadau ar sut i’w defnyddio ar eu gwefan. Dyma un enghraifft o’r rhaglen ar waith. Dylid defnyddio terfynell i weithredu’r gorchmynion.
Chwilio am ddrama Inside Men: get_iplayer –type=tv “Inside Men”
sy’n rhoi’r canlyniad hwn i ni: INFO: 1 Matching Programmes 399: Inside Men – Episode 1, BBC One
Llwytho’r rhaglen drwy ddefnyddio’r rhif o’r canlyniad: get_iplayer –get 399 fydd yn llwytho ffeil MP4 o safon dda a maint cymharol fawr (350mb) i’ch plygell cartref.
Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am bynciau pwysig ar gael yn hawdd, a’r wybodaeth honno’n gyfredol, dyma dudalen ar sut i osod meddalwedd ar Ubuntu. Gellir mynd ati drwy glicio’r ddolen Gosod Rhaglenni yn y ddewislen ar frig y blog.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am Ganolfan Meddalwedd Ubuntu, ffeiliau .deb, a sut i ddefnyddio Apt.
Ar Ubuntu a nifer o systemau gweithredu eraill mae bysell PrtSc yn tynnu sgrînlun o’r sgrîn gyfan. Os oes angen llun o ran o’r sgrîn mae’n rhaid agor Gimp i olygu’r sgrînlun, neu newid gosodiadau Gimp cyn tynnu’r sgrînlun. Mae estyniad Area Screenshot yn gwneud hyn yn hawdd drwy greu llwybr byr ar gyfer y gwaith.
Darllen gweddill Tynnu sgrînlun o ran o’r sgrîn
Cynhadledd agored ar y we a thechnoleg sy’n rhoi’r cyfle i bobol i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cynhadledd 2012 yn cynnwys sesiwn dan arweiniad Mark Jones am gyfieithu Ubuntu ar Launchpad.
Adeilad Parry-Williams, Prifysgol Aberystwyth, ar benwythnos Ionawr 27-28, 2012.
Manylion ar y wici | Poster
Mae Gpaste yn declyn defnyddiol sy’n arbed y defnyddiwr rhag gorfod symud yn ôl ac ymlaen rhwng ffeiliau yn copïo a gludo testun a delweddau. Gall fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth gyfieithu, blogio neu olygu dogfennau testun.
Darllen gweddill Gpaste: rheolwr clipfwrdd Gnome
Fel y rhan fwyaf o reolwyr ffenestri mae gan Nautilus ddewsilen clic dde sy’n cynnwys pethau fel dileu, creu plygell ayb, yn dibynnu ar y cyd-destun. Mae modd ychwanegu llawer mwy o ddewisiadau drwy lwytho Nautilus Actions Extra, pecyn o sgriptiau defnyddiol ar gyfer Nautilus.
Darllen gweddill Clic dde yn Nautilus
Er bod modd defnyddio ImageMagick i drosi, addasu a phrosesu delweddau, nid yw defnyddio terfynell at ddant pawb. Mae Converseen yn rhaglen gyda rhyngwyneb graffegol sy’n defnyddio ImageMagick i wneud y gwaith. I’w osod copia, gludo a gweithredu’r canlynol mewn terfynell fesul llinell.
sudo add-apt-repository ppa:faster3ck/converseen
sudo apt-get update
sudo apt-get install converseen
Gwefan Converseen | Sgrînluniau
Dyma ran gyntaf canllaw ar ddefnyddio Gnome 3.
Y peth cyntaf i wneud ar ôl gosod Gnome ar y system yw cychwyn Gnome Tweak Tool. Os nad yw ar y system yn barod gellir ei lwytho drwy: sudo apt-get install gnome-tweak-tool
Darllen gweddill Defnyddio GNOME 3
Mae rhifyn 55 o Full Circle ar gael i’w lwytho’n rhad ac am ddim o fan hyn. Mae hefyd modd ei lwytho erbyn hyn o Ganolfan Meddalwedd Ubuntu, a bydd yn cael ei gadw yn /opt/fullcircle/issues/.
Mae’r cylchgrawn hefyd yn rhyddhau podlediadau defnyddiol sy’n cynnwys gwybodaeth am Ubuntu a Linux.
 Llwytho Full Circle: Canolfan Meddalwedd Ubuntu
GNOME 3 yw penbwrdd diofyn Linux Mint 12, Fedora 16 a nifer o systemau gweithredu eraill. Mae’r penbwrdd yn hawdd i’w ddefnyddio, deniadol, cyflym, a chyfoes, ac yn integreiddio’n hawdd gyda gwasanethau fel Gmail a Calendr Google, Twitter, Facebook ayb. Gellir ei osod ar Ubuntu drwy agor Terfynell a chopïo a gludo’r gorchymyn hwn:
sudo apt-get install gnome-shell
Darllen gweddill GNOME 3
|
|
Sylwadau