Ymestyn y defnydd o Rhythmbox

Mae modd defnyddio ategion (plugins) i newid golwg Rhythmbox a’r ffordd rwyt ti’n chware cerddoriaeth ar gyfrifiadur Ubuntu. Ceir rhestr o ategion swyddogol a sut i’w sefydlu ar y dudalen berthnasol o wefan Rhythmbox. Mae modd i ti hefyd lwytho rhai answyddogol sy’n cael eu datblygu drwy Gnome Live.

Yn yr enghraifft hon byddaf yn sefydlu [...]

Cerddoriaeth yn Ubuntu 10.04

Mae’r ffordd mae defnyddwyr Ubuntu yn gallu chwarae, rheoli a phrynu cerddoriaeth wedi newid yn fawr iawn gyda lansio Ubuntu 10.04. O reoli iPod neu iPod Touch, i brynu cerddoriaeth o siop Ubuntu, mae modd gwneud y cyfan nawr drwy Rhythmbox, prif feddalwedd trefnu a chwarae cerddoriaeth penbwrdd GNOME.

Ubuntu One: rhannu ffeiliau drwy’r cwmwl

Un o’r elfennau newydd i gael ei weithredu’n llawn yn Ubuntu 10.04 yw’r gallu i rannu ffeiliau drwy’r cwmwl. Mae Ubuntu One yn cynnig gwasanaeth cwmwl personol i bob defnyddiwr, a 2 GB o ofod storio yn rhad ac am ddim. Drwy Ubuntu One mae modd cyfamseru (syncio) ffeiliau, nodiadau, lluniau llyfrnodau a llawer mwy. [...]

Ubuntu 10.04

Mae’r fersiwn diweddaraf o Ubuntu wedi cael ei ryddhau. Mae’n cynnig cefnogaeth tymor hir, brand newydd, a llawer o nodweddion eraill.

Mwy o wybodaeth | Uwchraddio o fersiwn blaenorol | Llwytho Ubuntu 10.04 | Llwytho Ubuntu 10.04 ar gyfer gliniadur bach

Gwneud copi wrth gefn gyda Grsync

Mae’n werth i bawb sy’n defnyddio Ubuntu neu unrhyw system weithredu arall gael copi wrth gefn o ffeiliau pwysig. Un o’r rhaglenni mwyaf uchel ei pharch ar Linux ar gyfer cyflawni’r gwaith yw Rsync. Gan mai rhaglen sy’n cael ei rheoli gan y terfynell yw Rsync ac nad yw hyn at ddant pawb, mae datblygwyr [...]

Golygu fideo ar Ubuntu a systemau Linux eraill

Un peth sydd wedi bod yn anodd iawn wrth ddefnyddio Linux yn y gorffennol yw cael hyd i olygydd fideo o safon. Mae rhaglenni fel Cinelerra a Kino wedi bod ar gael ers amser, ac mae cryfderau a gwendidau i’r rhain. Serch hynny, mae dwy raglen sydd wedi cael eu datblygu’n frwd yn ddiweddar, sef [...]

Cuddio testun mewn delwedd neu ffeil sain

Gyda rhaglen Steghide sydd ar gael drwy’r Rheolwr Pecynnau Synaptic mae modd i ti guddio testun neu neges mewn delwedd. Nid dyma’r ffordd orau o gadw gwybodaeth yn gudd a diogel, ond mae’n gallu bod yn hwyl!

GNOME Do

Mae GNOME Do yn cynnig ffordd wahanol i ti ryngweithio gyda’r bwrdd gwaith ar system Ubuntu a systemau Linux eraill. Y syniad y tu ôl GNOME Do yw i wneud tasgau cyffredin rwyt ti’n eu cyflawni drwy’r amser ar dy gyfrifiadur yn hawdd a didrafferth. Gyda GNOME Do mae modd i ti chwilio am ffeiliau, [...]

Ubuntu Netbook Remix 9.10

Ubuntu Netbook Remix 9.10: crewyd gyda RecordMyDesktop a Mencoder | Sianel YouTube.

Defnyddio RMD | Trosi ffeiliau gyda Mencoder

Llwytho (clec dde -> Cadw’r Cysylltiad Fel): fformat .avi | fformat .ogv

Amgryptio ffeiliau

Os wyt ti’n cadw gwybodaeth gyfrinachol, ariannol neu sensitif ar dy gyfrifiadur mae’n werth amgryptio ffeiliau i roi lefel arall o ddiogelwch i’r wybodaeth honno. Gall hyn dy arbed petai rhywun yn dwyn y cyfrifiadur neu’n ei ddefnyddio heb dy ganiatâd. Dyma ddwy ffordd o wneud hyn yn Ubuntu, y cyntaf yn defnyddio Seahorse, allwedd [...]