Y meddalwedd diofyn i rwygo cerddoriaeth ar benbwrdd Gnome yw Sound Juicer. Mae’n defnyddio technoleg rhwygo cds CD Paranoia, ac fel rheol bydd wedi ei sefydlu’n barod ar dy system Ubuntu. Mae modd ei lansio drwy fynd i Rhaglenni -> Sain a Fideo -> Audio CD Extractor. Os nag wyt ti’n gallu cael hyd iddo, [...]
Gwefan Full Circle Magazine | Llwytho ôl rifynnau (33 ohonyn nhw) | Podlediad
Cylchgrawn Linux Format
Ers peth amser mae cylchgrawn Linux Format wedi bod yn cyhoeddi tiwtorials cynhwysfawr a defnyddiol am sut i gyflawni tasgau syml a chymhleth yn defnyddio rhaglen graffeg Gimp. Erbyn hyn mae’r cylchgrawn wedi rhyddhau’r 18 tiwtorial yn rhad ac am ddim ar fformat pdf.
Gan eu bod yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl sy’n dy [...]
Yn yr enghraifft hon byddwn yn defnyddio terfynell gyda’r gorchmynion canlynol:
mkdir i greu plygell newydd o’r enw arbrawf
cp i gopio ffeil o’r enw pwerdai2.gif i’r blygell arbrawf
rm i ddileu’r ffeil
rm -r i ddileu’r blygell
hefyd: cd, ls a Tab (gweler Defnyddio Terfynell (2).
Wrth ddefnyddio terfynell mae…
pwd yn rhoi llwybr lleoliad llawn i ti (print working directory)
defnyddioTab wrth deipio llwybr yn cwblhau’r llwybr ar dy ran
cd gyda llwybr yn newid o un blygell i’r llall, a cd yn unig yn mynd a ti nôl i’r blygell cartref
ls yn rhestru cynnwys y blygell
clear yn clirio’r sgrin
Mae sawl ffordd wahanol o chwilio am ffeiliau ar dy gyfrifiadur, gyda rhai o’r rhain yn defnyddio rhyngwyneb graffegol (gui), a rhai’n defnyddio terfynell. Mae’r meddalwedd chwilio diofyn yn Ubuntu (Gnome) yn bwerus iawn, ac yn hawdd i’w ddefnyddio.
Er mor hawdd i’w defnyddio yw Ubuntu a Linux yn gyffredinol, gall fod yn anodd i ddefnyddiwr sy’n symud o Windows neu Mac i ddod yn gyfarwydd â’r ffordd mae Ubuntu’n gweithio ar y dechrau. Y peth pwysig i gofio yw mai nid fersiwn rad o Windows neu Mac OS yw Ubuntu, a dyw popeth [...]
Mae llyfr am sut i ddefnyddio Ubuntu gan Keir Thomas, awdur y llyfr poblogaidd Ubuntu Kung Fu, ar gael yn rhad ac am ddim i’w lwytho ar ffurf pdf. Enw’r llyfr yw Ubuntu Pocket Guide and Reference, ac mae’r 170 o dudalennau yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a lluniau.
Llwytho Ubuntu Pocket Guide and Reference (2.1mb)
Mae’r pecyn Ubuntu craidd yn cynnwys y meddalwedd fydd angen arnat i gyflawni tasgau bob dydd ar dy gyfrifiadur. Mae hyn yn cynnwys rhaglen swyddfa lawn OpenOffice, porwr gwe Firefox, rhaglen ebost Evolution, golygydd graffeg The Gimp, gemau amrywiol, geiriaduron, a chwaraewr a llosgwr cd a dvd.
I ganfod pa feddalwedd sydd wedi ei sefydlu ar dy beiriant agor terfynell a theipia:
dpkg –get-selections > meddalwedd
Bydd ffeil o’r enw meddalwedd yn ymddangos yn dy gyfeiriadur cartref sy’n rhestru’r pecynnau sydd wedi eu sefydlu ar dy system.
Sylwadau Diweddar