|
|
Y llynedd cyhoeddodd Leighton Andrews fwriad Llywodaeth Cymru i greu platfform dysgu digidol newydd i Gymru o’r enw Hwb. Mae’r Hwb yn weithredol erbyn hyn, ac yn defnyddio proffil Addysg Cymru ar iTunesU fel ffordd o gynnig mynediad at lawer o’r adnoddau. Does dim fersiwn Linux o iTunes ar gael, ac nid yw iTunes yn [...]
Dyma sut i osod a rhedeg pecynnau Tor a Vidalia ar gyfer cuddio eich cyfeiriad IP wrth bori’r we. Mae Tor yn gallu amddiffyn eich preifatrwydd drwy sicrhau nad oes modd i bobl sy’n gwylio’ch cysylltiad rhyngrwyd, gan gynnwys y cwmni sy’n darparu eich cysylltiad rhyngrwyd, wybod na chofnodi pa safleoedd yr ydych yn ymweld [...]
Fideo byr sy’n arbrofi gyda OpenShot, Gimp a recordMyDesktop. Mae OpenShot yn defnyddio Blender i animeiddio’r teitlau.
Cerddoriaeth: Draw ar y Mynydd, Cleif Prendelyn, Record Hir Lleisiau. Ar gael yn rhad ac am ddim o wefan y Faner Newydd.
Mae’r rhaglen golygu graffeg poblogaidd Gimp – ateb Linux i Photoshop – wedi rhyddhau fersiwn Gimp 2.8. O’r diwedd mae modd defnyddio Gimp fel rhaglen un ffenest, yn hytrach nag agor ffenestri gwahanol ar gyfer delweddau a dewislenni.
Fydd Gimp 2.8 ddim yn dod yn rhan o gronfeydd swyddogol Ubunu tan fersiwn 12.10. I lwytho Gimp [...]
Mae rhaglen get-iplayer yn galluogi defnyddwyr Ubuntu i lwytho copi cadw MP4 o raglenni o wefan iPlayer BBC. I lwytho’r meddalwedd chwiliwch am get-iplayer yng Nghanolfan Meddalwedd Ubuntu – bydd CMU yn sicrhau bod pecynnau eraill sydd angen i redeg y rhaglen yn cael eu llwytho hefyd.
Rhaglen llinell orchymyn yw get-iplayer, ac mae cyfarwyddiadau ar [...]
Ar Ubuntu a nifer o systemau gweithredu eraill mae bysell PrtSc yn tynnu sgrînlun o’r sgrîn gyfan. Os oes angen llun o ran o’r sgrîn mae’n rhaid agor Gimp i olygu’r sgrînlun, neu newid gosodiadau Gimp cyn tynnu’r sgrînlun. Mae estyniad Area Screenshot yn gwneud hyn yn hawdd drwy greu llwybr byr ar gyfer y [...]
Er bod modd defnyddio ImageMagick i drosi, addasu a phrosesu delweddau, nid yw defnyddio terfynell at ddant pawb. Mae Converseen yn rhaglen gyda rhyngwyneb graffegol sy’n defnyddio ImageMagick i wneud y gwaith. I’w osod copia, gludo a gweithredu’r canlynol mewn terfynell fesul llinell.
sudo add-apt-repository ppa:faster3ck/converseen
sudo apt-get update
sudo apt-get install converseen
Gwefan Converseen | Sgrînluniau
Mae Skype yn un o’r miloedd o raglenni sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar Ubuntu. I’w osod agor Canolfan Meddalwedd Ubuntu a’i ddewis, a rho glec i’r blwch wrth Indicator Support for QT. Er mwyn sicrhau bod Skype yn cychwyn gyda’r system cer i dop eithaf dde’r penbwrdd, rho glec i Startup [...]
Mae gan Ubuntu Cymraeg dudalen ar Google+. Os wyt ti’n defnyddio Google Plus ychwanega’r dudalen at dy gylchoedd neu ei dilyn.
Dyma rai tudalennau Linux eraill sy’n werth eu dilyn ar Google Plus:
Ubuntu | Sefydliad Meddalwedd Rhydd | OMG Ubuntu | Linux Journal | The Document Foundation (Libre Office) | Gnome
Mae hefyd modd i ti [...]
Mae cwmni Microsoft wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i wneuthurwyr sydd eisiau gosod logo cytunedd Windows 8 ar eu peiriannau ddefnyddio’r hyn sy’n cael ei alw’n “Secure Boot.” Mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at weithredu cyfyngiadau bwtio mewn ffordd fydd yn atal y defnyddiwr rhag bwtio mewn i unrhyw system heblaw Windows.
Dim [...]
|
Ieithoedd Select Language -> English for a rough translation into English
|
Sylwadau