Mae Canonical wedi cyhoeddi mai nid Gnome fydd penbwrdd diofyn Ubuntu 11.04, ac y bydd Ubuntu yn ffafrio Unity yn ei le. Daw’r cyhoeddiad wedi ymateb cymysg i gyflwyno Unity i Ubuntu Netbook Edition 10.10 ym mis Hydref eleni. Ers hynny mae staff Canonical a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Unity i fod yn haws i’w addasu a’i ddefnyddio, ac mae’r penderfyniad i osod Compiz fel rhan ganolog o Unity i fod i arwain at greu rhyngwyneb pwerus, glân a chyffrous.
Mae Tîm Ubuntu Cymru eisoes wedi cyfieithu’r rhan fwyaf o Unity, er bod llawer o waith cyfieithu ar ôl i’w wneud i weddill y system. Y newyddion da i ffyddloniaid Gnome: mae Linux wastad yn cynnig dewis, a bydd modd defnyddio Gnome yn lle Unity drwy ddewis sesiwn Gnome wrth fewngofnodi.









Sylwadau