GNOME 3 yw penbwrdd diofyn Linux Mint 12, Fedora 16 a nifer o systemau gweithredu eraill. Mae’r penbwrdd yn hawdd i’w ddefnyddio, deniadol, cyflym, a chyfoes, ac yn integreiddio’n hawdd gyda gwasanethau fel Gmail a Calendr Google, Twitter, Facebook ayb. Gellir ei osod ar Ubuntu drwy agor Terfynell a chopïo a gludo’r gorchymyn hwn:
sudo apt-get install gnome-shell
Ar ôl allgofnodi bydd modd ei ddewis yn lle Unity (Ubuntu) wrth fewngofnodi, ac os nag wyt yn ei hoffi mae modd dychwelyd at Unity drwy ddewis Ubuntu y tro nesaf, felly does dim i’w golli drwy roi cynnig arno.
Ar ôl llwytho GNOME 3 mae’n werth gwneud dau neu dri pheth cyn mynd gam ymhellach:
- Gosod Gnome Tweak: sudo apt-get install gnome-tweak-tool
- Tynnu Cronfa Meddalwedd Medibuntu. Profiad personol ar Linux Mint, dyw hwn ddim yn gweithio ac mae’n arafu popeth.
- Newid yr iaith i’r Gymraeg.
Gwybodaeth am GNOME 3
- Canllawiau ardderchog ar Fforwm Linux Mint
- Llwybrau Byr GNOME 3
- Llwytho rhagor o themâu ar gyfer GNOME 3
- Papur Wal / Cefndir Penbwrdd GNOME
- Cyfieithu GNOME 3 i’r Gymraeg
- Estyniadau GNOME 3
GNOME 3 ar waith

Integreiddio gyda Calendr Google (bawdlun yn unig)














A fydd enw’r wefan ma rwan yn newid i Ubuntu a Mint Cymraeg?
Gan fod Linux Mint yn cymryd Ubuntu, ei addasu a’i ail-becynnu, rwy’n weddol gyfforddus yn blogio amdano fan hyn.
Fe ddylen i fod wedi nodi bod pob canllaw ar y blog yma sy’n cyfeirio at ddefnyddio meddalwedd yn gweithio’n union run peth ar Mint ac Ubuntu, a siwr o fod Debian hefyd.
Ond ti’n iawn, falle fydd mwy o sylw yn cael ei roi i GNOME na Unity yn y dyfodol. Mae’n siwr bod Canonical yn crynu yn eu sgidie mod i wedi dechrau blogio am Mint!!!!
Methu deud dwi rhy hoff o Unity, mae’n andros o drwm, yn enwedig os mae’n cael ei redeg ar gyfrifiadur bach. Gwell cadw at Gnome.
Cytuno. Fe fues i’n rhedeg Unity wedi iddo gael ei gyflwyno. Wedi mynd nol at GNOME ar y gliniadur – yn enwedig gan bod GNOME 3 mor drawiadol. Mae’n demtasiwn i ddefnyddio Gnome Shell ar bob cyfrifiadur, a rhoi cyfle i Unity eto ar ol 12.04 i weld os yw wedi gwella