Mae ImageMagick yn feddalwedd pwerus ar gyfer golygu ac addasu delweddau o bob math. Gall ddarllen, trosi a chreu delweddau mewn dros 100 o fformatau gwahanol, gan gynnwys y rhai mwyaf cyffredin a rhai llai arferol, a fformatau fel pdf.
Dyweder bod gen ti ddegau o luniau ar gamera digidol, a dy fod eisiau eu lleihau er mwyn medru eu rhoi ar y we. Gall ImageMagick wneud hyn mewn eiliadau gydag un gorchymyn.
1 Llwytho a sefydlu ImageMagick
Agor terfynell a theipio:
sudo apt-get install imagemagick gan gyflwyno dy gyfrinair pan fydd yn gofyn amdano.
2 Paratoi’r delweddau
Os wyt ti eisiau cadw’r gwreiddiol gwna gopi o’r lluniau rwyt ti am eu trosi a’u rhoi mewn plygell gyda’i gilydd ee plygell lluniaugwe yn dy blygell cartref.
3 Trosi’r delweddau
Defnyddia terfynell i symud i’r blygell honno: cd lluniaugwe ac yna teipia’r gorchymyn canlynol:
mogrify -resize 600 *.jpg
Dyma rai elfennau o’r gorchymyn mogrify uchod mae modd i ti eu haddasu .
- Mae mogrify yn rhan o becyn meddalwedd ImageMagick.
- Mae -resize 600 yn trosi bob delwedd i 600 picsel o led, ac yn cadw’r cymhareb maint. Wrth gwrs mae modd newid 600 i rywbeth arall.
- Mae’r rhan *.jpg yn dweud wrth ImageMagick am drosi pob ffeil .jpg, ond fe allet ti enwi ffeiliau fan hyn yn lle ee llun1.jpg llun2.jpg os nag wyt ti am drosi’r cyfan.
Dim ond un enghraifft o’r miloedd o bethau gwahanol gall ImageMagick wneud yw hwn. Dilyn y dolenni isod am fwy o wybodaeth.










Sylwadau