Bar lansio Cairo-dock

Os wyt ti’n gyfarwydd â doc Mac OSX sy’n cynnwys lanswyr wedi eu hanimeiddio efallai y bydd diddordeb gen ti yn Cairo-dock. Mae Cairo-dock yn cynnig yr un math o brofiadau i ddefnyddiwr Ubuntu, ac wrth gwrs, mae’n rhad ac am ddim ac yn hawdd iawn i’w sefydlu.

Mae’r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer sefydlu Cairo-dock drwy’r cronfeydd meddalwedd ar system Ubuntu 8.04 (Hardy). Mae gwybodaeth am ffyrdd eraill o’i sefydlu ar systemau gwahanol ar wefan Cymuned Ubuntu.

1 - Cronfa Meddalwedd

Mae gan Cairo-dock gronfa meddalwedd ei hun, felly ychwanega hwn at dy system drwy agor terfynell a theipio:
$ sudo gedit /etc/apt/sources.list

Ychwanega’r côd canlynol ar waelod y ffeil sy’n agor, ei cadw a’i chau:
deb http://repository.cairo-dock.org/ubuntu hardy cairo-dock
(newid y rhan hardy i dy system di)

2 - Allwedd GPG

I ychwanegu’r allwedd gpg agor terfynell a gludo’r canlynol cyn pwyso enter:
$ wget -q http://repository.cairo-dock.org/ubuntu/cairo-dock.gpg -O- | sudo apt-key add -

3 Llwytho’r meddalwedd

Agor terfynell a theipia’r canlynol, un ar y tro:
$ sudo apt-get update
$ sudo apt-get install cairo-dock cairo-dock-plugins

4 Cychwyn Cairo-dock

Mae modd lansio Cairo-dock o Rhaglenni-> Offer System-> Cairo-Dock neu drwy’r terfynell gyda’r gorchymyn
$ cairo-dock

I ychwanegu Cairo-dock at y rhaglenni sy’n cychwyn gyda’r system dilyn y cyfarwyddiadau hyn gan roi cairo-dock yn y blwch Command.

5 Cymreigio ac addasu Cairo-dock

Mae modd i ti addasu Cairo-dock mewn cannoedd o ffyrdd gwahanol.

  • Llusga lansiwr i’r doc i’w ychwanegu at Cairo-dock.
  • I newid enw lansiwr yn Cairo-dock rho glec dde iddo a chlec i Modify this launcher. Rho deitl Cymraeg y rhaglen yn Launcher’s name.
  • Rho glec dde i’r doc ac yna Cairo-Dock -> Configure neu Cairo-Dock-> Themes i gael addasu’r thema, ac ymddygiad popeth arall.

6 Gwybodaeth bellach

Gwefan Cairo-dock (Ffrangeg)
Wiki Saesneg
Cymuned Ubuntu

Cair-dock ar system Ubuntu Cymraeg

Cair-dock ar system Ubuntu Cymraeg

Ymateb

 

 

 

Mae modd defnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

*
I brofi mai person wyt ti, ac ni peiriant, teipia'r gair atal spam sydd yn y llun.
Delwedd atal spam