Sylwadau

  • Dr Dawn Knight: Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy
  • ubuntucymraeg: Cytuno. Fe fues i'n rhedeg Unity wedi iddo gael ei gyflwyno.
  • Huw: Methu deud dwi rhy hoff o Unity, mae'n andros o drwm, yn enw
  • ubuntucymraeg: Gan fod Linux Mint yn cymryd Ubuntu, ei addasu a'i ail-becyn
  • Huw: A fydd enw'r wefan ma rwan yn newid i Ubuntu a Mint Cymraeg?

Newid Thema

Os wyt ti wedi blino edrych ar yr un hen sgrin beth am fynd ati i newid thema, eiconau a chefndir penbwrdd i rywbeth ychydig yn fwy cyffrous a deniadol. Mae’n broses hawdd iawn yn Ubuntu o ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Byddaf yn defnyddio’r canlynol i greu penbwrdd a thema tebyg i’r rhai yn y sgrinluniau isod, felly mae angen llwytho’r 3 pecyn hyn i dy gyfrifiadur.

Thema Moomex

Thema Moomex

Thema Moomex yn defnyddio Compiz

Thema Moomex yn defnyddio Compiz

Y peth cyntaf i wneud yw cadw dy thema gyfredol rhag ofn dy fod eisiau ei defnyddio eto. Cer i System-> Hoffterau-> Appearance, clicia ar y thema a’i chadw gyda Save As.

Wedyn bydd angen llwytho’r thema newydd, y cefndir penbwrdd newydd, a’r eiconau drwy ddefnyddio’r cyfarwyddiadau hyn.

I roi eicon Bin Sbwriel ac eiconau defnyddiol eraill ar y penbwrdd dilyn y cyfarwyddiadau hyn:

  • Alt-F2 i weithredu rhaglen
  • Teipio gconf-editor a phwyso enter
  • Yn y Golygydd Cyfluniad cer i apps \ nautilus \ desktop
  • Ticia’r blychau priodol a chau’r Golygydd Cyfluniad

Os wyt ti’n defnyddio Ubuntu 8.04 ac yn cael allbwn rhyfedd weithiau wrth ddefnyddio terfynell ar ȏl llwytho’r thema, gwna hyn:

  • Agor terfynell
  • Teipia gedit /home/defnyddiwr/.themes/Moomex/gtk-2.0/gtkrc gan roi dy enw defnyddiwr di yn lle defnyddiwr.
  • Yn y llinell gtk-icon-sizes mae angen rhoi ‘:‘ yn lle ‘\n‘ fel ei fod yn edrych fel hyn – “panel-menu=24,24:panel=20,20:gtk-button=18,18:gtk-large-toolbar=24,24

Pob lwc gyda’r thema – mae miloedd o rai eraill ar gael ar y we.

Ymateb

 

 

 

Mae modd defnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

*
To prove you're a person (not a spam script), type the security word shown in the picture. Click on the picture to hear an audio file of the word.
Click to hear an audio file of the anti-spam word