Beth yw Cronfeydd Ubuntu
Un term sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson ar fforymau ac mewn dogfennaeth Ubuntu yw “repository”. Y term Cymraeg am hwn yw cronfa (neu storfa) ac mae’n cyfeirio at y miloedd o raglenni sydd ar gael i sefydlu ar system Ubuntu. Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu storio mewn archifau meddalwedd (cronfeydd), ac maen nhw ar gael i sefydlu ar dy system dros y we. Mae hyn yn gwneud sefydlu meddalwedd newydd ar Ubuntu yn hawdd iawn drwy ddefnyddio’r Rheolwr Pecynnau Synaptic neu raglen Add/Remove Ubuntu. Mae hefyd yn ddiogel iawn gan fod y rhaglenni wedi cael eu profi’n drylwyr ar gyfer Ubuntu.
4 Math o gronfa
Mae cronfeydd meddalwedd Ubuntu wedi eu rhannu’n bedwar rhan, yn seiliedig ar faint o gefnogaeth sydd ar gael i’r meddalwedd, ac ydy’r meddalwedd yn cydymffurfio ag Athroniaeth Meddalwedd Rhydd Ubuntu. Y pedair cronfa yw:
Prif (Main) - meddalwedd sy’n derbyn cefnogaeth swyddogol gan Ubuntu
Cyfyngedig (Restricted) - meddalwedd sy’n cael ei gefnogi ond sydd ddim ar gael dan drwydded gwbwl rydd
Hollfyd (Universe) - sy’n cael ei gynnal gan y gymuned, hynny yw ddim yn derbyn cefnogaeth swyddogol
Amlfyd (Multiverse) - meddalwedd nad yw’n rhydd yn yr ystyr nad yw’n cyfateb i bolisi trwyddedu Ubuntu
Mae mwy o fanylion am y pedair math o gronfa ar gael ar wefan Ubuntu.
Defnyddio Cronfeydd Ubuntu
Mae pa feddalwedd sydd ar gael i lwytho ar dy gyfrifiadur Ubuntu di yn dibynnu’n gyfangwbwl ar ba gronfeydd rwyt ti wedi eu galluogi. Drwy fynd i System -> Gweinyddiaeth -> Software Sources gallu di weld beth sydd wedi ei alluogi ar dy system, ac ychwanegu cronfeydd eraill.
Fel y gweli o’r llun, mae’r cyfan wedi eu galluogi ar y cyfrifiadur hwn.
Mae’n llawer gwell llwytho meddalwedd drwy’r cronfeydd na llwytho pecyn lawr a’i sefydlu, gan dy fod yn derbyn diweddariadau cyson i’r meddalwedd drwy’r rheolwr diweddariadau.
Mae modd hefyd ychwanegu cronfa unigol ar gyfer meddalwedd penodol, ond testun ar gyfer postiad arall yw hwnnw.










Sylwadau Diweddar