Un o’r rhaglenni pwysicaf ar gyfrifiadur Ubuntu yw y Rheolwr Pecynnau Synaptig (neu’n fyr Synaptic) sy’n dy alluogi i lwytho meddalwedd yn hawdd ar y system. Mae’n syml i’w ddefnyddio, yn rheoli pecynnau dibynnol sydd angen ar y meddalwedd, ac yn dy rybuddio os nad yw rhywbeth yn bosib.
I ddechrau cer i System -> Gweinyddiaeth -> Synaptic Package Manager. Cyflwyna dy gyfrinair pan fydd gofyn i ti wneud hynny.
Bydd y rheolwr pecynnau yn agor, a gallu di bori drwy wahanol gategoriau, neu ddefnyddio’r blwch chwilio i gael gafael mewn pecyn. Yn yr achos hwn byddaf yn llwytho porwr gwe Epiphany a rhai ategynnau.
Wedi i ti nodi dy fod am lwytho hwn drwy dicio’r blwch a chlicio Mark for Installation, clica ar Apply - yn yr achos hwn mae Synaptic yn nodi bod angen llwytho peth deunydd atodol i Epiphany weithio’n iawn. Wedi ti glicio Mark a wedyn Gosod bydd y system yn llwytho’r meddalwedd a’i osod.
Nawr bod Epiphany wedi ei osod clicia Cau a cer i Rhaglenni -> Rhyngrwyd -> Y Porwr Gwe Epiphany.
Nawr mae gen ti ddewis o borwyr Cymraeg, Epiphany neu’r un diofyn, Firefox.










Sylwadau Diweddar