Mae sawl ffordd wahanol o chwilio am ffeiliau ar dy gyfrifiadur, gyda rhai o’r rhain yn defnyddio rhyngwyneb graffegol (gui), a rhai’n defnyddio terfynell. Mae’r meddalwedd chwilio diofyn yn Ubuntu (Gnome) yn bwerus iawn, ac yn hawdd i’w ddefnyddio.
I chwlio am ffeil cer i Mannau-> Chwilio am Ffeiliau. Yn y ffenest newydd fe gei di ddewis i chwilio am enw ffeil, dewis y lleoliad i chwilio, ac o dan Dewis mwy o opsiynau i chwilio am destun y tu fewn i ffeil.
Os nag wyt ti’n hapus gyda rhaglen chwilio ddiofyn Ubuntu galli di lwytho a defnyddio rhaglenni eraill, mae digon o ddewis.
MetaTracker | Beagle | Recoll
Os wyt ti eisiau defnyddio terfynell i chwilio am ffeiliau dilyn y cyngor sydd ar Wefan Cymuned Ubuntu.











Sylwadau Diweddar