Os wnes di lwytho fersiwn alffa o’r porwr cyflym Google Chromium ar dy system fe fyddi wedi cael sawl cyfle i’w ddiweddaru erbyn hyn wrth i’r datblygwyr weithio arno. Mae’n siwr dy fod wedi sylwi hefyd fod y neges ar y dudalen gyfarch wedi newid, a’i fod yn nodi bod modd defnyddio’r porwr i bori gwefannau sy’n defnyddio Flash.
Nid yw’r ategyn Flash wedi ei alluogi’n ddiofyn eto serch hynny. I ddefnyddio Google Chromium i bori gwefannau fel YouTube agor terfynell a theipio:
chromium-browser –enable-plugins









Sylwadau Diweddar