Enwau ffeiliau yn Linux

Mae ffeiliau sydd yn dechrau gyda atalnod yn ffeiliau cudd. I weld ffeiliau cudd naill ai cer i Golwg -> Dangos Ffeiliau Cudd yn y porwr ffeiliau, neu pwysa Ctrl+h. Rho gynnig ar wneud hyn y dy blygell Cartref ac fe weli di ffeiliau ffurfweddiad rhai rhaglenni. I guddio’r ffeiliau cudd eto pwysa Ctrl+h eilwaith.

Mae Linux yn ystyried maint llythrennau, a dyw priflythyren ddim yr un peth â llythyren fach. Felly gallet gael dwy ffeil wahanol, fel Enwffeil ac enwffeil yn yr un blygell.

Mae’n bwysig i geisio dod i arfer â pheidio defnyddio bylchau mewn enwau ffeiliau a phlygellau yn Linux. Os wyt ti’n defnyddio cymeriadau wrth enwi ffeil, defnyddia atalnod (.),  strac (-), neu islinell (_).

Ymateb

 

 

 

Mae modd defnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

*
I brofi mai person wyt ti, ac ni peiriant, teipia'r gair atal spam sydd yn y llun.
Delwedd atal spam