Mae nifer o raglenni yn Ubuntu sy’n dy alluogi i gopio DVD a CD. Nid yw pob un o’r rhain yn gallu copio pethau fel ffilmiau sy’n cael eu hamddiffyn gan rwystrau DRM. Serch hynny mae rhai rhaglenni fydd yn dy alluogi i gopio bron a bod unrhywbeth, rhwystrau neu beidio, ac un o’r rhain yw K9copy. I gopio mwy neu lai unrhyw DVD:
Llwytho’r Meddalwedd
Defnyddia’r Rheolwr Pecynnau Synaptic i lwytho K9copy a Brasero. Mae’n bosib bod rhain eisoes wedi eu sefydlu ar dy system.
Creu delwedd iso o DVD
Cer i Rhaglenni -> Sain a Fideo -> k9copy. Defnyddia K9copy i gopio delwedd .iso o DVD i dy gof caled. Bydd angen rhyw 4.5gb ar gyfer gwneud hyn, a gall gymryd peth amser yn dibynnu ar dy system.
Llosgi copiau
Cer i Rhaglenni -> Sain a Fideo -> Brasero, ac wedi i Brasero agor rho glec i Burn Image. Chwilia am y ffeil .iso rwyt ti newydd ei chreu gyda K9copy, a llosga gopiau o’r DVD. Wedi i ti orffen galli di ddileu y ffeil .iso gan ei bod yn debygol o fod yn fawr iawn.
Ymwadiad
Nid yw’r cyfraniad hwn yn dy annog i dorri’r gyfraith drwy greu copiau anghyfreithlon o DVD. Rwy’n cymryd dy fod yn byw mewn gwlad lle mae hawl gen ti greu copiau wrth gefn o dy gasgliad personol, fel Gwlad Belg neu Sweden!









Sylwadau Diweddar