Os wyt ti’n cadw gwybodaeth gyfrinachol, ariannol neu sensitif ar dy gyfrifiadur mae’n werth amgryptio ffeiliau i roi lefel arall o ddiogelwch i’r wybodaeth honno. Gall hyn dy arbed petai rhywun yn dwyn y cyfrifiadur neu’n ei ddefnyddio heb dy ganiatâd. Dyma ddwy ffordd o wneud hyn yn Ubuntu, y cyntaf yn defnyddio Seahorse, allwedd PGP, a rhyngwyneb graffegol, a’r ail yn defnyddio GPG (GNU Privacy Guard) a therfynell.
1. Seahorse a PGP
Y cam cyntaf yw creu’r allwedd. Dim ond unwaith y bydd yn rhaid i ti wneud hyn, ac o hynny ymlaen galli di ddefnyddio’r un allwedd ar gyfer amgryptio gwybodaeth.
Cer i Rhaglenni -> Ategolion -> Passwords and Encryption Keys. Ar y gwaelod rho glec i Newydd wrth Generate a new key of your own a dilyn y cyfarwyddiadau. Wrth fynd drwy’r broses o greu Allwedd PGP paid defnyddio’r un cyfrinair rwyt ti’n arfer defnyddio, gwna’n siwr dy fod yn creu cyfrinair cryf, a’i fod yn rhywbeth y byddi di’n cofio!
Nawr mae modd i ti amgryptio unrhyw ffeil neu ffolder gyda chlec dde -> Encrypt. Bydd hyn yn creu ffeil newydd gyda therfyniad .pgp, ac mae’n bwysig dy fod yn dileu’r gwreiddiol a gwagio’r sbwriel.
I ddatgloi’r ffeil: Clec dde -> Agor gyda “Decrypt File”, a chyflwyno’r cyfrinair wnes di greu wrth gynhyrchu allwedd.
Mae modd defnyddio’r un allwedd a chyfrinair drwy’r amser o hyn ymlaen i amgryptio neu ddatgloi’r ffeil, gyda chlec dde syml bob tro.
2. Terfynell a GPG
I amgryptio gwybodaeth yn defnyddio terfynell a GPG, defnyddia cd i symud i’r blygell gywir ac ls i ganfod enw’r ffeil, yna teipia:
gpg -c enwffeil
gan roi enw’r ffeil rwyt ti eisiau amgryptio. Bydd yn gofyn i ti greu cyfrinair, a bydd y cyfrinair hwn yn benodol i’r ffeil. Gallu di ddefnyddio’r un cyfrinair bob tro i wneud pethau’n haws.
Yn yr enghraifft hon mae ffeil o’r enw cyfrinachol mewn plygell o’r enw gwybodaeth_ariannol yn cael ei hamgryptio gyda GPG.
















Sylwadau Diweddar