Os wyt ti’n defnyddio â ê î ô ŵ ŷ yn aml yn Open Office mae’n gallu bod yn drafferthus i fynd drwy’r broses o Mewnosod -> Nod Arbennig ayb. bob tro. Yr ateb yw recordio Macro fydd yn creu llwybr byr i wneud hyn. Gwylia’r fideo drwy’r dolenni ar waelod y cofnod hwn i weld pa mor hawdd yw gwneud hyn, a dilyna’r cyfarwyddiadau canlynol.
Yn yr enghraifft hon rwy’n mynd i osod CTRL+SHIFT+E yn llwybr byr i gael ê. Cer i Offer -> Macros -> Recordio Macro, yna cer drwy’r broses o Mewnosod -> Nod Arbennig, chwilio am ê, a chlec i Iawn. Wedyn rho glec i Atal Recordio, a chadw’r Macro yn Standard.
Nawr mae angen cysylltu llwybr byr y bysellfwrdd gyda’r Macro. Cer i Offer -> Addasu, a rho glec i’r tab Bysellfwrdd. Yng nghornel gwaelod chwith y sgrîn dan Categori chwilia am Macros OpenOffice.org, clec i’r arwydd plus ger User -> Standard -> Module 1.
Dewis y Macro (Macro 1 os mai dyma’r tro cyntaf i ti wneud hyn, Macro 2 os mai dyma’r eildro ayb) wedyn dewis llwybr byr o’r dewisiadau Allweddi byr uwchlaw (CTRL+SHIFT+E), rho glec i Newid, a chlec i Iawn. Nawr bydd CTRL+SHIFT+E yn rhoi ê yn y ddogfen, ac mae modd i ti recordio Macro ar gyfer y symbolau eraill i gyd.
Y cyfarwyddiadau hyn ar ffurf fideo maint llawn: Fformat ogv | Fformat avi
(neu fel Fideo YouTube).











Sylwadau Diweddar