Ers peth amser mae cylchgrawn Linux Format wedi bod yn cyhoeddi tiwtorials cynhwysfawr a defnyddiol am sut i gyflawni tasgau syml a chymhleth yn defnyddio rhaglen graffeg Gimp. Erbyn hyn mae’r cylchgrawn wedi rhyddhau’r 18 tiwtorial yn rhad ac am ddim ar fformat pdf.
Gan eu bod yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl sy’n dy arwain gam wrth gam drwy broses, byddi’n dysgu llawer am Gimp o’u dilyn. Mae modd llwytho’r tiwtorials yn unigol o Tux Radar, neu i gyd gydai’i gilydd fel ffeil zip sy’n rhyw 90MB.
Mae Linux Format yn nodi bod hawl gen ti ddobsarthu’r rhain ar bapur neu ar ddisg yn rhad ac am ddim at ddefnydd anfasnachol, ond yn gofyn i ti beidio a’u dosbarthu arlein, ac yn hytrach i gyfeirio pobl at eu gwefan nhw.









Go dda. Dw i’n pigo fy nhrwyn i mewn i Linux Format pob mis yn WH Smiths (ond heb brynnu copi ers dros flwyddyn - £7/8 braidd yn ddrud).