Gyda rhaglen Steghide sydd ar gael drwy’r Rheolwr Pecynnau Synaptic mae modd i ti guddio testun neu neges mewn delwedd. Nid dyma’r ffordd orau o gadw gwybodaeth yn gudd a diogel, ond mae’n gallu bod yn hwyl!
Cyn dechrau gwna’n siwr bod gen ti ddelwedd addas ar gyfer cuddio gwybodaeth ynddi, a gwybodaeth mewn ffeil .txt i’w chuddio. Yn yr achos hon rwy wedi rhoi ffeiliau o’r enw ffotograff.jpg a neges.txt yn fy mhlygell cartref. Wedi i fi lwytho Steghide drwy Synaptic gallaf agor terfynell a theipio
steghide embed -cf ffotograff.jpg -ef neges.txt
gan roi cyfrinair ddwywaith i gadw’r wybodaeth yn gudd. Rwy’n gweld y neges isod:
steghide embed -cf ffotograff.jpg -ef neges.txt
Enter passphrase:
Re-Enter passphrase:
embedding “neges.txt” in “ffotograff.jpg”… done
Dyna ni – mae’r testun oedd yn neges.txt wedi ei guddio yn ffotograff.jpg. Bydd yn rhaid i berson arall sydd eisiau cael hyd i’r testun yn y ffotograff wybod y cyfrinair, a theipio
steghide extract -sf ffotograff.jpg
mewn terfynell.
steghide extract -sf ffotograff.jpg
Enter passphrase:
wrote extracted data to “neges.txt”
Gall Steghide guddio gwybodaeth mewn ffeiliau JPEG, BMP, WAV ac AU. Mae modd gwneud llawer mwy gyda Steghide ee amgryptio’r wybodaeth hefyd.
Os wyt ti wedi llwytho Steghide ceisia ddod o hyd i’r neges rwy wedi cuddio yn y ffeil ffotograff.jpg. Y cyfrinair i gael y wybodaeth o’r ffeil hon yw gaircudd.
Anfon ymateb os wnei di lwyddo.









Sylwadau