Golygu fideo ar Ubuntu a systemau Linux eraill

Un peth sydd wedi bod yn anodd iawn wrth ddefnyddio Linux yn y gorffennol yw cael hyd i olygydd fideo o safon. Mae rhaglenni fel Cinelerra a Kino wedi bod ar gael ers amser, ac mae cryfderau a gwendidau i’r rhain. Serch hynny, mae dwy raglen sydd wedi cael eu datblygu’n frwd yn ddiweddar, sef PiTiVi a Kdenlive.

logokdenlive70Kdenlive

Os wyt ti’n chwilio am olygydd fideo pwerus gyda llawer o nodweddion sy’n medru cystadlu gyda rhaglenni fel iMovie ac Adobe Premiere Pro, mae’n werth rhoi cynnig ar Kdenlive.

Sefydlu Kdenlive

Mae modd sefydlu Kdenlive drwy ychwanegu cronfa feddalwedd newydd ac ail-lwytho Synaptic. I wneud hyn ar Ubuntu 9.10 dilyn y cyfarwyddiadau isod. Mae mwy o gyfarwyddiadau ar gyfer systemau eraill ar wefan Kdenlive.

Cer i System-> Gweinyddiaeth -> Software Sources, cyflwyna dy gyfrinair, rho glec i’r tab Other Software, clec i Add, a gluda ppa:sunab/ppa yn y blwch, ei gau, ac ail-lwytho pan fydd yn gofyn i ti wneud. Agor y Rheolwr Pecynnau Synaptic, chwilia am Kdenlive a rhoi clec iddo. Bydd Synaptic yn gofyn i ti lwytho meddalwedd arall gyda’r rhaglen a rho glec i iawn wrth ei sefydlu.

Defnyddio Kdenlive

Bydd lansiwr ar gyfer Kdenlive yn ymddangos dan Rhaglenni-> Sain a Fideo. Gair o rybudd. Mae Kdenlive yn rhaglen bwerus, llawn nodweddion sy’n defnyddio FFmpeg i drin a thrafod pob math o ffeiliau sain a fideo, os wyt ti’n gallu ei gael i weithio.

Mae’n bwysig cofio mai Kdenlive 0.7.7 yw’r un diweddaraf, a’i fod yn gwella drwy’r amser, ond os nag wyt ti’n lwcus iawn bydd angen bach o amynedd, gwaith a gwglo cyn bod y rhaglen yn rhedeg yn iawn a ddim yn chwalu. I gael Kdenlive i weithio’n iawn ar fy system i bu’n rhaid addasu dipyn ar y gosodiadau, a chreu lansiwr oedd yn defnyddio gorchymyn env XLIB_SKIP_ARGB_VISUALS=1 kdenlive yn hytrach na lansio’r rhaglen drwy’r gorchymyn arferol, sef kdenlive.

logopitivim70PiTiVi

Cyn dechrau, yr ynganiad o ddarllen yn y Gymraeg yw pai ti fi. Cafwyd datblygu mawr ar PiTiVi yn ddiweddar, gyda chwmni preifat yn noddi pobl i weithio’n llawn amser ar y rhaglen. Mae PiTiVi wedi ei adeiladu ar fframwaith gstreamer, ac mae’n rhaglen gwbwl sefydlog.

Sefydlu PiTiVi

Mae modd ei sefydlu’n hawdd iawn drwy’r Rheolwr Pecynnau Synaptic. Bydd Synaptic yn gofyn i ti lwytho meddalwedd arall gyda’r rhaglen a rho glec i iawn wrth ei sefydlu.

Defnyddio PiTiVi

Bydd lansiwr ar gyfer PiTiVi yn ymddangos dan Rhaglenni-> Sain a Fideo. Gair o rybudd. Fersiwn 0.13.3 yw’r un diweddaraf, ac er bod PiTiVi yn sefydlog a hawdd ei ddefnyddio does dim llawer o nodweddion iddo eto. Gyda’r datblygu trwm mae’n siwr y bydd PiTiVi yn dod yn olygydd fideo poblogaidd iawn yn y dyfodol, ond does dim modd ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gyflawni dim byd heblaw am dasgau syml iawn.

Dyma rai rhaglenni eraill i olygu fideo ar Linux sy’n werth cofio amdanyn nhw:

Cinelerra

Mae Cinelerra wedi bod ar gael ers amser, ac mae’n werth rhoi cynnig ar hwn yn ôl y rhai sy’n ei greu: “If you want the same kind of editing suite that the big boys use, on an efficient UNIX operating system, it’s time for Cinelerra.”

Kino

Rhaglen elfennol i olygu DV. Handi iawn i gael ar dy system ar gyfer trosglwyddo ffilm o gamera fideo.

Kdenlive | PiTiVi | Cinelerra | Kino | Gwybodaeth ar Fforwm Ubuntu

Golygu fideo gyda Kdenlive

Golygu fideo gyda Kdenlive

Golygu fideo gyda PiTiVi

Golygu fideo gyda PiTiVi

Ymateb

 

 

 

Mae modd defnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

*
I brofi mai person wyt ti, ac ni peiriant, teipia'r gair atal spam sydd yn y llun.
Delwedd atal spam