Sylwadau

  • Dr Dawn Knight: Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy
  • ubuntucymraeg: Cytuno. Fe fues i'n rhedeg Unity wedi iddo gael ei gyflwyno.
  • Huw: Methu deud dwi rhy hoff o Unity, mae'n andros o drwm, yn enw
  • ubuntucymraeg: Gan fod Linux Mint yn cymryd Ubuntu, ei addasu a'i ail-becyn
  • Huw: A fydd enw'r wefan ma rwan yn newid i Ubuntu a Mint Cymraeg?

Gosod rhaglenni

1 Canolfan Meddalwedd Ubuntu

I’r rheiny sydd wedi arfer defnyddio AppStore Apple neu Android Market bydd rhyngwyneb Canolfan Meddalwedd Ubuntu yn edrych yn gyfarwydd.

Canolfan Meddalwedd Ubuntu

Canolfan Meddalwedd Ubuntu

Os yn defnyddio Unity bydd eicon Canolfan Meddalwedd Ubuntu yn y ddewislen chwith. Os yn defnyddio Gnome mae modd ei agor drwy Gorolwg -> teipio Canolfan yn y bar chwilio. Mae’n werth creu llwybr byr i Ganolfan Meddalwedd Ubuntu oherwydd ei bod yn rhaglen sy’n cael ei defnyddio’n aml.

Gellir chwilio am raglen drwy’r blwch chwilio neu drwy bori’r categoriau. Wedyn rhoi clec i Gosod, cyflwyno cyfrinair a bydd Canolfan Meddalwedd Ubuntu yn gosod y rhaglen, ac yn dweud sut mae mynd ati i’w lansio wedyn. Yn yr enghraifft hon rwy’n gosod SMPlayer.

Chwlio am raglen drwy Ganolfan Meddalwedd Ubuntu

Chwlio am raglen drwy Ganolfan Meddalwedd Ubuntu

Gosod rhaglen drwy Ganolfan Meddalwedd Ubuntu

Gosod rhaglen drwy Ganolfan Meddalwedd Ubuntu

Rhedeg SMPLayer

Rhedeg SMPLayer

Mae Canolfan Meddalwedd Ubuntu yn defnyddio’r cronfeydd meddalwedd, ac yn sicrhau bod pecynnau dibynnol yn cael eu gosod hefyd os oes angen rhain i redeg rhaglen. Bydd rhaglenni sy’n cael eu gosod drwy’r Ganolfan Meddalwedd yn cael eu diweddaru drwy’r system pan fod fersiwn newydd ar gael.

2 Ffeiliau .deb

Erbyn hyn does dim llawer o angen defnyddio ffeiliau .deb i lwytho meddalwedd. Weithiau, serch hynny, efallai bydd fersiwn mwy newydd neu fersiwn arbennig o raglen ar ffurf .deb sydd ddim yn y cronfeydd meddalwedd.

Mae’r broses o lwytho meddalwedd drwy ddefnyddio ffeil .deb yn debyg iawn i’r broses o lwytho rhaglen sydd ar ffurf .exe yn Windows:

Llwytho’r ffeil o’r we -> Ei chadw yn rhywle -> Rhoi clec ddwbwl i’r ffeil -> Cadarnhau bod caniatâd i lwytho’r meddalwedd

Erbyn hyn mae Canolfan Meddalwedd Ubuntu yn camu mewn i lwytho’r ffeil .deb, ac yn sicrhau bod pecynnau dibynnol yn cael eu gosod. Fydd rhaglen sy’n cael ei osod drwy ffeil .deb ddim yn cael ei diweddaru pan fydd fersiwn newydd ar gael.

3 Defnyddio Apt

Mae’n dal yn well gan lawer o ddefnyddwyr Linux i ddefnyddio terfynell wrth lwytho a thynnu meddalwedd. Mae modd gwneud hyn drwy ddefnyddio APT (Advanced Packaging Tool). Pan fyddi’n gosod rhywbeth drwy Apt bydd yn chwilio am y ffeiliau, eu llwytho a’u gosod, ac yn sicrhau bod pecynnau dibynnol yn cael eu gosod.

Mae modd defnyddio Apt i lwytho unrhyw raglen sydd ar gael drwy’r cronfeydd meddalwedd yn ffeil /etc/apt/sources.list. Mewn gwirionedd mae Canolfan Meddalwedd Ubuntu a’r Rheolwr Pecynnau Synaptic yn cynnig rhyngwyneb graffegol i Apt.

Y gorchymyn mwyaf cyffredin yw sudo apt-get install enwrhaglen

Mae’r rhan sudo o’r gorchymyn yn rhoi hawliau gweinyddwr i’r defnyddiwr, apt-get yn defnyddio Apt, install yn dweud wrth Apt beth i wneud, a enwrhaglen yn dweud wrth Apt beth i osod.

Er enghraifft, i osod y fersiwn diweddaraf o Firefox sydd ar gael drwy’r Cronfeydd Meddalwedd yn /etc/apt/sources.list byddech yn defnyddio sudo apt-get install firefox.

Dyma rai gorchmynion Apt defnyddiol. Mae’r cyntaf a’r ail yn aml yn cael eu defnyddio un ar ôl y llall i ddiweddaru’r system, ac yn sicrhau bod rhaglenni cyfredol arni.

sudo apt-get update i ddiweddaru’r rhestr o’r pecynnau yn /etc/apt/sources.list

sudo apt-get upgrade i osod y fersiynau mwyaf newydd o bob rhaglen sydd wedi ei osod ar y system drwy’r cronfeydd sydd yn /etc/apt/sources.list

Dyma restr o orchmynion eraill allai fod yn ddefnyddiol:

sudo apt-cache search enwrhaglen i chwilio am raglen

sudo apt-get remove enwrhaglen i dynnu rhaglen o’r system

sudo apt-get –purge remove enwrhaglen i dynnu popeth sy’n ymnweud â rhaglen, gan gynnwys ffeiliau cyfluniad

sudo apt-get –reinstall install enwrhaglen i dynnu rhaglen a’i ailosod

Mae modd gwneud y pethau hyn i gyd drwy raglenni gyda rhyngwyneb graffegol fel Canolfan Meddalwedd Ubuntu, a dewis i ddefnyddwyr sydd ag ychydig o brofiad yw Apt fel arfer.

4 – Rheolwr Pecynnau Synaptic

Synaptic yw’r hen ffordd o osod rhaglenni ar Ubuntu. Dyma esboniad o sut i’w lwytho a’i ddefnyddio.

5 – Canolfan Meddalwedd Deepin

Mae Deepin yn cynnig ffordd amgen o osod rhaglenni ar Ubuntu. O ran ffwythiannau mae’n debyg iawn i Ganolfan Meddalwedd Ubuntu. Serch hynny mae rhai nodweddion ychwanegol gan Deepin, ac mae’n cynnig rhyngwyneb gwahanol sydd yn fwy modern ym marn rhai.