Fideo gan OMG Ubuntu sy’n amlinellu’r hyn sy’n newydd yn Ubuntu 12.04.
|
||||||
|
Fideo gan OMG Ubuntu sy’n amlinellu’r hyn sy’n newydd yn Ubuntu 12.04. Mae rhaglen get-iplayer yn galluogi defnyddwyr Ubuntu i lwytho copi cadw MP4 o raglenni o wefan iPlayer BBC. I lwytho’r meddalwedd chwiliwch am get-iplayer yng Nghanolfan Meddalwedd Ubuntu – bydd CMU yn sicrhau bod pecynnau eraill sydd angen i redeg y rhaglen yn cael eu llwytho hefyd. Rhaglen llinell orchymyn yw get-iplayer, ac mae cyfarwyddiadau ar sut i’w defnyddio ar eu gwefan. Dyma un enghraifft o’r rhaglen ar waith. Dylid defnyddio terfynell i weithredu’r gorchmynion. Chwilio am ddrama Inside Men: get_iplayer –type=tv “Inside Men” sy’n rhoi’r canlyniad hwn i ni: INFO: 1 Matching Programmes 399: Inside Men – Episode 1, BBC One Llwytho’r rhaglen drwy ddefnyddio’r rhif o’r canlyniad: get_iplayer –get 399 fydd yn llwytho ffeil MP4 o safon dda a maint cymharol fawr (350mb) i’ch plygell cartref.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am Ganolfan Meddalwedd Ubuntu, ffeiliau .deb, a sut i ddefnyddio Apt. Ar Ubuntu a nifer o systemau gweithredu eraill mae bysell PrtSc yn tynnu sgrînlun o’r sgrîn gyfan. Os oes angen llun o ran o’r sgrîn mae’n rhaid agor Gimp i olygu’r sgrînlun, neu newid gosodiadau Gimp cyn tynnu’r sgrînlun. Mae estyniad Area Screenshot yn gwneud hyn yn hawdd drwy greu llwybr byr ar gyfer y gwaith. Cynhadledd agored ar y we a thechnoleg sy’n rhoi’r cyfle i bobol i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cynhadledd 2012 yn cynnwys sesiwn dan arweiniad Mark Jones am gyfieithu Ubuntu ar Launchpad. Adeilad Parry-Williams, Prifysgol Aberystwyth, ar benwythnos Ionawr 27-28, 2012. Mae Gpaste yn declyn defnyddiol sy’n arbed y defnyddiwr rhag gorfod symud yn ôl ac ymlaen rhwng ffeiliau yn copïo a gludo testun a delweddau. Gall fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth gyfieithu, blogio neu olygu dogfennau testun. Fel y rhan fwyaf o reolwyr ffenestri mae gan Nautilus ddewsilen clic dde sy’n cynnwys pethau fel dileu, creu plygell ayb, yn dibynnu ar y cyd-destun. Mae modd ychwanegu llawer mwy o ddewisiadau drwy lwytho Nautilus Actions Extra, pecyn o sgriptiau defnyddiol ar gyfer Nautilus. Er bod modd defnyddio ImageMagick i drosi, addasu a phrosesu delweddau, nid yw defnyddio terfynell at ddant pawb. Mae Converseen yn rhaglen gyda rhyngwyneb graffegol sy’n defnyddio ImageMagick i wneud y gwaith. I’w osod copia, gludo a gweithredu’r canlynol mewn terfynell fesul llinell. sudo add-apt-repository ppa:faster3ck/converseen Dyma ran gyntaf canllaw ar ddefnyddio Gnome 3. Y peth cyntaf i wneud ar ôl gosod Gnome ar y system yw cychwyn Gnome Tweak Tool. Os nad yw ar y system yn barod gellir ei lwytho drwy: sudo apt-get install gnome-tweak-tool Mae rhifyn 55 o Full Circle ar gael i’w lwytho’n rhad ac am ddim o fan hyn. Mae hefyd modd ei lwytho erbyn hyn o Ganolfan Meddalwedd Ubuntu, a bydd yn cael ei gadw yn /opt/fullcircle/issues/. Mae’r cylchgrawn hefyd yn rhyddhau podlediadau defnyddiol sy’n cynnwys gwybodaeth am Ubuntu a Linux. |
||||||
|
Adeiladwyd gyda meddalwedd côd agored: System Weithredu | Gweinydd Prawf | Graffeg | Golygydd PHP |
||||||
Sylwadau