Cronfa meddalwedd Cairo Dock

Mae problem ar hyn o bryd gyda chronfa meddalwedd rhaglen Cairo-Dock. Nid yw Synaptic yn medru cyrchu diweddariadau gan bod gweinydd Cairo-Dock ar stop.

Cronfa Meddalwedd Cairo-Dock

Bydd yn rhaid aros tan i’r gronfa ddod arlein unwaith yn rhagor, ac mae perchnogion Cairo-Dock yn gweithio ar hyn: http://stwnsh.com/cronfacairodock

Bar lansio Cairo-dock

Os wyt ti’n gyfarwydd â doc Mac OSX sy’n cynnwys lanswyr wedi eu hanimeiddio efallai y bydd diddordeb gen ti yn Cairo-dock. Mae Cairo-dock yn cynnig yr un math o brofiadau i ddefnyddiwr Ubuntu, ac wrth gwrs, mae’n rhad ac am ddim ac yn hawdd iawn i’w sefydlu.