Ymestyn y defnydd o Rhythmbox

Mae modd defnyddio ategion (plugins) i newid golwg Rhythmbox a’r ffordd rwyt ti’n chware cerddoriaeth ar gyfrifiadur Ubuntu. Ceir rhestr o ategion swyddogol a sut i’w sefydlu ar y dudalen berthnasol o wefan Rhythmbox. Mae modd i ti hefyd lwytho rhai answyddogol sy’n cael eu datblygu drwy Gnome Live.

Yn yr enghraifft hon byddaf yn sefydlu [...]

Cerddoriaeth yn Ubuntu 10.04

Mae’r ffordd mae defnyddwyr Ubuntu yn gallu chwarae, rheoli a phrynu cerddoriaeth wedi newid yn fawr iawn gyda lansio Ubuntu 10.04. O reoli iPod neu iPod Touch, i brynu cerddoriaeth o siop Ubuntu, mae modd gwneud y cyfan nawr drwy Rhythmbox, prif feddalwedd trefnu a chwarae cerddoriaeth penbwrdd GNOME.

Llwythwr MP3 Amazon

Os wyt ti’n defnyddio siop MP3 Amazon mae’n rhaid i ti gael meddalwedd arbennig os am brynu albwm cyfan. Mae nifer o fersiynau Linux o’r meddalwedd llwytho caneuon, ac mae modd llwytho’r fersiwn Ubuntu’n hawdd. Mae’r  caneuon ar Amazon yn rhydd o rwystrau DRM.

Naill ai llwytha’r meddalwedd o wefan Amazon a dilyn y cyfarwyddiadau sydd [...]

Chwarae cerddoriaeth gyda Amarok

Os wyt ti’n gyfarwydd gyda rhaglenni fel iTunes i drefnu a chware cerddoriaeth byddi wrth dy fodd gyda rhaglen Amarok. Llwytha’r rhaglen drwy’r Rheolwr Pecynnau Synaptic ac yna cer ati i lwytho dy gasgliad cerddoriaeth i Amarok.