Ymestyn y defnydd o Rhythmbox

Mae modd defnyddio ategion (plugins) i newid golwg Rhythmbox a’r ffordd rwyt ti’n chware cerddoriaeth ar gyfrifiadur Ubuntu. Ceir rhestr o ategion swyddogol a sut i’w sefydlu ar y dudalen berthnasol o wefan Rhythmbox. Mae modd i ti hefyd lwytho rhai answyddogol sy’n cael eu datblygu drwy Gnome Live.

Yn yr enghraifft hon byddaf yn sefydlu [...]

Cerddoriaeth yn Ubuntu 10.04

Mae’r ffordd mae defnyddwyr Ubuntu yn gallu chwarae, rheoli a phrynu cerddoriaeth wedi newid yn fawr iawn gyda lansio Ubuntu 10.04. O reoli iPod neu iPod Touch, i brynu cerddoriaeth o siop Ubuntu, mae modd gwneud y cyfan nawr drwy Rhythmbox, prif feddalwedd trefnu a chwarae cerddoriaeth penbwrdd GNOME.

iPod Touch ar Ubuntu

Rheoli iPod Touch gyda Rhythmbox

Tan yn ddiweddar roedd bron yn amhosib i ddefnyddio Ubuntu i reoli dyfais iPod Touch. Er gwaetha miloedd o geisiadau i Apple naill ai i greu iTunes ar gyfer Linux, neu i ryddhau digon o’r côd i alluogi cymuned Linux i wneud y gwaith, gwrthod wnaeth y cwmni.

Mae hyn wedi [...]