Ymestyn y defnydd o Rhythmbox

Mae modd defnyddio ategion (plugins) i newid golwg Rhythmbox a’r ffordd rwyt ti’n chware cerddoriaeth ar gyfrifiadur Ubuntu. Ceir rhestr o ategion swyddogol a sut i’w sefydlu ar y dudalen berthnasol o wefan Rhythmbox. Mae modd i ti hefyd lwytho rhai answyddogol sy’n cael eu datblygu drwy Gnome Live.

Yn yr enghraifft hon byddaf yn sefydlu [...]

Defnyddio Gmail gydag Ubuntu 10.04

Evolution yw meddalwedd ebost diofyn Ubuntu 10.04, ac mae wedi ei adeiladu’n rhan o’r system. Er enghraifft mae ardal arddangos yn y bar top sy’n cynnwys pethau fel Pidgin ar gyfer sgyrsio, rheolwr cyfrifon darlledu fel Identi.ca, Facebook a Twitter, ac ardal sy’n dynodi pan fod ebost newydd yn cyrraedd Evolution. Dyw hyn ddim yn [...]

Cerddoriaeth yn Ubuntu 10.04

Mae’r ffordd mae defnyddwyr Ubuntu yn gallu chwarae, rheoli a phrynu cerddoriaeth wedi newid yn fawr iawn gyda lansio Ubuntu 10.04. O reoli iPod neu iPod Touch, i brynu cerddoriaeth o siop Ubuntu, mae modd gwneud y cyfan nawr drwy Rhythmbox, prif feddalwedd trefnu a chwarae cerddoriaeth penbwrdd GNOME.

Ubuntu One: rhannu ffeiliau drwy’r cwmwl

Un o’r elfennau newydd i gael ei weithredu’n llawn yn Ubuntu 10.04 yw’r gallu i rannu ffeiliau drwy’r cwmwl. Mae Ubuntu One yn cynnig gwasanaeth cwmwl personol i bob defnyddiwr, a 2 GB o ofod storio yn rhad ac am ddim. Drwy Ubuntu One mae modd cyfamseru (syncio) ffeiliau, nodiadau, lluniau llyfrnodau a llawer mwy. [...]

Ubuntu 10.04

Mae’r fersiwn diweddaraf o Ubuntu wedi cael ei ryddhau. Mae’n cynnig cefnogaeth tymor hir, brand newydd, a llawer o nodweddion eraill.

Mwy o wybodaeth | Uwchraddio o fersiwn blaenorol | Llwytho Ubuntu 10.04 | Llwytho Ubuntu 10.04 ar gyfer gliniadur bach

Gwneud copi wrth gefn gyda Grsync

Mae’n werth i bawb sy’n defnyddio Ubuntu neu unrhyw system weithredu arall gael copi wrth gefn o ffeiliau pwysig. Un o’r rhaglenni mwyaf uchel ei pharch ar Linux ar gyfer cyflawni’r gwaith yw Rsync. Gan mai rhaglen sy’n cael ei rheoli gan y terfynell yw Rsync ac nad yw hyn at ddant pawb, mae datblygwyr [...]

Rhwygo CD ar Ubuntu

Y  meddalwedd diofyn i rwygo cerddoriaeth ar benbwrdd Gnome yw Sound Juicer. Mae’n defnyddio technoleg rhwygo cds CD Paranoia, ac fel rheol bydd wedi ei sefydlu’n barod ar dy system Ubuntu. Mae modd ei lansio drwy fynd i Rhaglenni -> Sain a Fideo -> Audio CD Extractor. Os nag wyt ti’n gallu cael hyd iddo, [...]

Cylchgrawn Ubuntu yn rhad ac am ddim

Gwefan Full Circle Magazine | Llwytho ôl rifynnau (33 ohonyn nhw) | Podlediad

Cyhoeddi Penbwrdd yn Linux

Mae rhaglen Scribus yn feddalwedd côd agored pwerus sydd wedi cael ei ddatblygu’n drwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n cynnig opsiwn rhad ac am ddim i’r sawl sydd eisiau creu dogfennau o safon broffesiynol i’w cyhoeddi, ac yn gweithio ar gyfrifiaduron Linux, Mac neu Windows.

Mae modd llwytho Scribus yn hawdd drwy’r Rheolwr Pecynnau Synaptic, [...]

Golygu fideo ar Ubuntu a systemau Linux eraill

Un peth sydd wedi bod yn anodd iawn wrth ddefnyddio Linux yn y gorffennol yw cael hyd i olygydd fideo o safon. Mae rhaglenni fel Cinelerra a Kino wedi bod ar gael ers amser, ac mae cryfderau a gwendidau i’r rhain. Serch hynny, mae dwy raglen sydd wedi cael eu datblygu’n frwd yn ddiweddar, sef [...]